HYSBYSEBU A DYLUNIO BRAND
Sioeau 2020

Mae carfan Hysbysebu eleni wedi cofleidio’r trawsnewidiad digidol a’r meddwl strategol sydd wrthi’n mynd yn rhan ganolog o hysbysebu cyfoes. Maen nhw wedidefnyddio technoleg newydd, nid yn unig wrth arddangos eu gwaith, ond hefyd yn y gwaith ei hun. Wrth i hysbysebu barhau i drawsnewid yn fformatau newydd, gan ddarganfod ffordd i mewn i lwyfannau sy’n dod i’r amlwg, a thargedau cynulleidfaoedd mwyfwy amrywiol, y gweithwyr creadigol ym maes hysbysebu fydd yn llwyddo yw’r rhai sydd â golwg strategol soffistigedig.

Mae briffiau byw, briffiau cystadlaethau D&AD, ac Young Ones, briffiau i gleientiaid unigol a phrosiectau personol wedi ysbrydoli’r amrywiaeth eang o waith creadigol sy’n cael ei arddangos. Ymhlith y darnau gorffenedig mae apiau, animeiddiadau, ffilmiau, cyfleadau 3D, brandio, print, identau ac ymgyrchoedd integredig. Mae’r holl waith wedi’i adeiladu ar sylfaen gadarn syniadau gwreiddiol. Dyma’r symbyliadau creadigol y mae’r myfyrwyr wedi meiddio eu defnyddio i yrru datblygiad cymaint o ddarnau o gyfathrebu effeithiol mewn cymaint o fformatau. Mae’r dyfodol yn argoeli’n dda i’r myfyrwyr hyn yn y diwydiannau creadigol gan fod eu hymarfer yn dangos eu bod yn fwy na pharod i’w gofleidio.