Sgroliwch I Lawr
Sgroliwch I Lawr
Sgroliwch I Lawr
O FYWYD GO IAWN
Wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa Olafur Eliasson o’r un enw (Tate Modern, 2019), lluniwyd rhestr o eiriau i greu ymateb amser real i roi cychwyn i’r prosiect hwn…
Mae prosiect ac arddangosfa ddiwedd blwyddyn y myfyrwyr Celf a Dylunio Sylfaen wedi bod yn wahanol i bob un arall eleni. Y dasg i’r myfyrwyr yn y prosiect ‘O Fywyd go Iawn’ oedd ymateb i ddigwyddiadau cyfredol oedd yn digwydd o gwmpas y byd. Ni roddwyd unrhyw gyfyngiadau ar eu ffynonellau; roedd pynciau enghreifftiol yn cynnwys yr amgylchedd, gwleidyddiaeth, iechyd meddwl a’r pandemig cyfredol.
Mae’r myfyrwyr wedi creu gwaith sy’n mynd i’r afael ag ystod o gysyniadau cymhleth a phrosesau. Yn sgil cyfyngiadau Coronafeirws, mae’r rhan helaethaf o’r gwaith hwn wedi’i greu mewn lleoliadau domestig, ac mae’n arddangos dyfeisgarwch.
Mae’n rhoi pleser mawr i mi rannu’r creadigrwydd sydd wedi’i ddefnyddio ar hyd y flwyddyn Sylfaen, ac rwy’n siŵr y gallwch synhwyro’r amser a’r ymdrech sydd wedi eu rhoi i greu’r arddangosfa hon.
Hoffwn i ddiolch i ffrindiau, teuluoedd a pherthnasoedd am eu cefnogaeth a’u hanogaeth.
Hoffwn hefyd ddiolch i’m tîm staff, Shellie, Anthony, Jason, Becky ac Anna ynghyd â’m technegwyr Tash a Terri am eu holl waith caled, ymrwymiad a dealltwriaeth.
Yn bennaf oll, hoffwn i ddiolch i’r holl fyfyrwyr Sylfaen, gan ddymuno pob llwyddiant i chi yn eich dyfodol creadigol.
Katherine Clewett,
Rheolwr Rhaglen