Sgroliwch i lawr
Sgroliwch i lawr
Sgroliwch i lawr
Dyma sect o artistiaid, crewyr a breuddwydwyr dirgel ac anniffiniadwy sy’n mynychu’r lle hwnnw rhwng signalau digidol o gacoffoni cyfrifiadurol o fotymau hoffi a thanysgrifio, lle mae gwefannau cymharu’n prisio allan ystyron mwy fforddiadwy ein bywydau gydag athroniaethau sy’n werth da am arian. Yma mae animeiddwyr, y mae eu môr-ladrad o’r mannau diogel digidol hyn yn arwain at doreth ddireol o bleserau euog yn y cyfnod arunig hwn.
Profwch y straeon diflanedig hyn sy’n symud ymlaen yn anhygoel o gyflym, ar lawn hwyl ar draws ein môr o drybini, i ddod â straeon i ni am greaduriaid ffantastig sy’n ceisio dialedd, enaid amddifad sy’n rhoi gobaith i fachgen bach, a sbarc bach sy’n tanio rhwng dau ddieithryn mewn cul-de-sac bach, wedi’i swatio yng nghorneli preifat ein bywydau cyffredin. Straeon ffantastig, cymeriadau gwych, a bwgan perygl yn ffynnu rhwng signalau digidol a ddyfeisiwyd i ni ragori yn ein bywydau a chreu rhywbeth llawer mwy gwamal a rhyfedd: breuddwyd llawn bwyll wedi’i animeiddio’n 3D gan gyfrifiadur.
Yma mae eu cyffeithiau creadigol heb unrhyw ddefnyddioldeb i swyddogaeth ein dynoliaeth o gwbl, ond sydd yn cynnwys y rhinwedd hanfodol honno sy’n ei diffinio.