Dominic Cunningham
Sioeau Haf 2020

BA (Anrh) Hysbysebu a Dylunio Brand

E-bost: dominiccunningham2@gmail.com

Mae Dom wedi astudio hysbysebu a dylunio brand am 3 blynedd. Mae ganddo safbwynt unigryw a diddorol ar greadigrwydd ac mae’n hoffi gwthio ei hun i greu canlyniadau dargyfeiriol. 

Mae e wedi gweithio gyda chleientiaid i greu datrysiadau brandio a hysbysebu, mae ganddo lefel uchel o sgil wrth weithio ar Adobe Suite yn ogystal â chyfryngau dylunio eraill ac mae’n cael llawer o ysbrydoliaeth gan y pethau y mae’n eu gweld o’i gwmpas.  Mae Dom yn dwlu ar fod yn yr awyr agored, ac yn mwynhau gweithgareddau fel nofio, ceufadu yn ogystal â sglefrfyrddio ac mae’n herio ei hun o hyd i ddysgu sgiliau newydd. Mae hefyd yn mwynhau ystod eang o gerddoriaeth o ganu gwlad i bync.  

Mae gan Dom synnwyr ffasiwn bywiog ac mae’n cael llawer o’i ddillad o gyfanwerthwyr ‘vintage’ a siopau elusen sy’n ychwanegu at ei steil unigryw. 

Ewch i’m gwefan

Spotify Carmony

Gwobrau Young Ones 2020 – Fideo yn rhan o ymgyrch i gael gyrwyr y UD i wrando ar Spotify yn eu ceir. Bydd meddalwedd yn defnyddio sglodion RFID i ddethol rhestrau chwarae yn seiliedig ar leoliad daearyddol

Google HMCT

Brîff Cystadleuaeth D&AD – Yr her yw dod o hyd i genre, cân neu fudiad cerddorol sy’n orau cynrychioli achos a chreu ymgyrch teipograffeg yn gyntaf gydag elfennau ffisegol a digidol i ysbrydoli eich cynulleidfa i ddarganfod rhagor am y mater(ion) a, lle bo’n berthnasol, sbarduno maes gweithredu.

Next Show