DRAMA GYMHWYSOL
Sioeau 2020

Drama Gymhwysol: Addysg, Lles, Cymuned 

Mae’r gwaith prosiect a grëwyd gan ein myfyrwyr yn portreadu eu brwdfrydedd a’u creadigrwydd ar adeg pryd mae’r ddau wedi bod ar brawf. Mae pob myfyriwr wedi datblygu cynlluniau manwl i ymgysylltu â’u cyfranwyr mewn ffyrdd ystyriol, meddylgar ac arloesol yn seiliedig ar eu diddordebau arbenigol eu hun ym maes Drama Gymhwysol. Fe welwch ddeunydd ffilm a recordiwyd o’r myfyrwyr yn cyflwyno eu traethawd Prosiect Annibynnol yn ein symposiwm ‘Platfform’, a fynychir gan fyfyrwyr, graddedigion, ymarferwyr, hwyluswyr a gweithwyr proffesiynol o’r gymuned les o bob cwr o’r DU.

Mae’r gwaith maent yn ei rannu a’r sgiliau maent yn eu harddangos yn deillio o ymchwil creadigol ac arbrofi ymarferol a gyflawnwyd ym meysydd drama, iechyd a lles, theatr a drama mewn addysg, perfformio cyfranogol ac arfer proffesiynol. Unwaith eto rydym yn falch o weld cynnyrch y prosiectau annibynnol yn cael ei ddathlu gan y cymunedau a fydd yn cefnogi ein myfyrwyr fel graddedigion, ac rydym yn eu llongyfarch ar eu hymatebion creadigol arloesol.

Next Show