Ewan Watkins
Sioeau 2020

Mae Ewan Watkins yn Ddylunydd Graffig brwd sy’n gweithio yn Ne Cymru. Mae ganddo foeseg waith wych ac mae’n wir mwynhau bod yn Ddylunydd Graffig. Mae brandio, gwefannau, dylunio apiau a golygyddol i gyd yn feysydd y mae’n eu mwynhau’n arbennig. Mae’n dwlu ar y broses o ddod â phrosiectau’n fyw o fraslunio a thaflu syniadau i ganlyniad ar gyfer sgrin neu brint. Mae ganddo gariad at symlrwydd a chynhyrchu canlyniadau diffwdan, proffesiynol.

Yn siaradwr Cymraeg rhugl, gall addasu ei ddyluniau’n rhai dwyieithog yn hyderus. Yn ystod ei amser yn y Brifysgol mae e wedi magu hyder yn sylweddol drwy ymroi cant y cant i’w waith drwy gydol ei raglen radd. Mae bod yn y Brifysgol wedi caniatáu iddo weithio ar amrywiaeth o brosiectau ac wedi rhoi’r cyfle iddo arbrofi a dod o hyd i’w arddull ei hun. Hefyd, mae wedi dangos iddo sut y gall Ddylunio Graffig wneud gwahaniaeth i’r byd trwy gyfathrebu gweledol effeithiol. Mae’n ddylunydd amryddawn sydd â’r gallu i weithio’n unigol ac yn rhan o dîm mewn unrhyw amgylchedd. Mae’n llawn cymhelliant ac yn deall nad bod yn y brifysgol yw ben y daith addysg am ei fod yn bwriadu dal ati i ddysgu a thyfu.

Next Show