Sgroliwch I Lawr
Sgroliwch I Lawr
Sgroliwch I Lawr
BA (Anrh) Ffilm a Theledu

Jay Bonser ydw i, sgriptiwr a chyfarwyddwr. Pan ddechreuais y cwrs hwn yn 2017, doedd gen i ddim syniad pa lwybr yr oeddwn am ei ddilyn mewn bywyd, ond roeddwn i’n gwybod fy mod am archwilio fy angerdd dros ffilmiau a gwneud ffilmiau.
Dair blynedd a llawer o gamgymeriadau’n wedyn, galla i ddweud yn ddiogel mai ysgrifennu a’r broses greadigol i lunio stori yw’r llwybr y bydda i’n ei gerdded.
Er i’m gwaith gael ei ysbrydoli’n aml gan amrywiaeth eang o themâu, mae’r cysyniad o ‘bechodau’r gorffennol’ mewn ffuglen a chyd-destun ffeithiol, hanesyddol wedi bod yn ffynhonnell gref o ysbrydoliaeth i mi o ran fy null o ymdrin â phrosiectau blaenorol, a bydd yn thema y bydda i’n parhau i’w harchwilio yn fy ngwaith ysgrifennu fy hun yn y dyfodol. Un o’r themâu allweddol yn fy mhrosiect i raddedigion oedd ‘Marwolaeth rhyddid digidol ‘, sef pwnc dwi’n gobeithio ei archwilio a’i ddatblygu yn fy ngwaith i ddod.