DYLUNIO CYNNYRCH
Sioeau 2020

Yn ei hanfod, mae Dylunio Cynnyrch yn diffinio’r byd o’n cwmpas, gan roi ystyr a synnwyr i’n bywydau. Yn y cyfnod diddorol hwn bydd Dylunwyr Cynnyrch yn derbyn yr her a bydd cymdeithas yn esblygu, newid a thyfu. Heb os, mae myfyrwyr y flwyddyn hon wedi bod ar daith: wrth wireddu eu deilliannau dylunio, maent wedi gorfod meistroli nifer o setiau sgiliau a gydnabyddir gan y diwydiant, o brotocolau cyfathrebu digidol i offer digidol o’r radd flaenaf.

Mae gwneud hyn yn galw am gydbwysedd gofalus rhwng mynegi dyluniad, creadigrwydd, dealltwriaeth dechnolegol ac ymchwiliad deallusol. O ganlyniad, mae graddedigion eleni wedi cyflwyno datrysiadau cynnyrch deinamig ac arloesol gan edrych ar gynhyrchion bob-dydd ac ail-ddiffinio eu swyddogaeth. Yr hyn a welwch yw anterth ymchwil dwys, arbrofi, gwireddu a dagrau. Mae’r arddangosfa’n agor eich meddwl i bosibiliadau esblygiad cynnyrch yn y dyfodol. Gobeithio bod yr arddangosfa mor ddiddorol ac ysbrydoledig i chi ag ydy hi i ni.