Simon Fudge
Sioeau Haf 2020

Celf a Dylunio Sylfaen

Mae fy ngwaith yn archwilio materion a themâu megis naratif, dirywiad, ecsploetio, theatr stryd a’r posibilrwydd o’r annisgwyl o fewn y ddinas ac amgylchedd trefol.   

Yn sgil cyfyngiadau a osodwyd gan ddeddfau newydd oherwydd y salwch Covid19 defnyddiais ddull o gofnodi a ganolbwyntiai ar realaeth sobreiddiol newydd bodolaeth yn ystod y cyfyngiadau symud; y risgiau, y cyfyngu, datgysylltu bywyd, ystrydeb a natur afreal y sefyllfa ac eironi radical pethau dibwys bob dydd.  

Gydol amgylchiadau cyfyngiadau’r firws teimlais atyniad at waith Stephen Shore a Jean Baudrillard o ran eu portreadau o’r hyn a ymddangosai’n gyffredin. Ymddengys fod y dull hwn yn meddu ar elfen o natur anchwiliadwy ystrydebol sy’n gofyn am graffu dwys gan y gwyliwr i geisio darganfod naratif. 

Os bydd cofnodi’r eitemau a’r gweithredoedd anniddorol hyn yn dweud rhywbeth am eu defnyddiwr, fel artist mae’n anodd diystyru yr hyn y gallai gwyliwr beirniadol ei ddirnad. Fodd bynnag, efallai petawn ni’n dilyn Baudrillard, ni all y gwyliwr hwnnw byth wybod pa mor real y mae delwedd, os nad ydyw yn real, yn sefydlog nac yn wir.

Next Show