DYLUNIO PATRWM ARWYNEB
Sioeau Haf 2020

Mae Dosbarth 2020 wedi gorfod wynebu heriau nad oedd unrhyw un yn gwybod y dylid paratoi ar eu cyfer. Maent wedi ailgodi eu hunain, wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol i fod yn greadigol a chyrraedd uchderau newydd yn eu harfer. Nid yw’r un ohonynt wedi chwilio am ffordd hawdd allan o’r sefyllfa – maent wedi derbyn yr her i ddysgu, ymestyn a chreu i’r eithaf.

Rydym wedi cael ein hysbrydoli gan eu cynnydd, eu gallu i addasu, ailffocysu a chreu gwaith hyfryd. Maent wedi profi eu bod yn ddatryswyr problemau gwydn, hyblyg. Maent wedi ymrwymo’n ddiwyro i’w dyfodol ym maes dylunio, gan wneud eu hunain mor gyflogadwy â phosibl drwy eu hymddygiad a’u proffesiynoldeb.

Rydym yn dathlu’r grŵp hwn am oresgyn trallod, ond byddwn hefyd yn dathlu eu taith unigryw fel myfyrwyr, a’u talent. Gall y grŵp hwn ymfalchïo mewn enillwyr ‘Idott’, a phrosiectau byw gyda phobl fel Mark Eley, Hallmark a Sain Ffagan. Yr haf diwethaf, bu iddynt arddangos eu gwaith yn Wythnos Ddylunio Clerkenwell gyda phartneriaid prosiect byw ‘Orangebox’ – uchafbwynt i ni i gyd. Yn unigolion maent wedi dod o hyd i gysylltiadau allanol anhygoel, gan wneud argraff dda arnom gyda’u cynnydd mewn hyder, yr wybodaeth maent wedi’i magu, a’u penderfyniad i sefydlu eu hunain yn gystadleuwyr y dyfodol.

Dosbarth 2020 yw’r rhai i’w gwylio! Rydym yn eich gwahodd i’w cefnogi nhw, eu dilyn nhw, cysylltu â nhw, cydweithio gyda nhw, rhoi cyfle iddyn nhw. Mae’n ddiogel dweud bod y grŵp yma’n fwy nag abl.

Georgia McKie  

Rheolwr Rhaglen

MDes Dylunio Patrwm Arwyneb



BA Dylunio Patrwm Arwyneb


Next Show