Zach Dunlap
Sioeau Haf 2020

Celf a Dylunio Sylfaen

Ysgogwyd fy mhrosiect gan waith yr artist Aimee Lax sy’n defnyddio clai a cherameg i siarad am y dwyllwybodaeth niwclear ac amgylcheddol sy’n cael ei lledaenu i’r werin bobl. Roedd hyn yn taro tant gyda mi ac felly dechreuais dreulio mwy o amser yn y stiwdio cerameg i archwilio’r syniad hwn fy hun. Dechreuais wneud castin slip o wrthrych, ond gan ddefnyddio’i gyflwr bregus a meddal i ddirdroi, aflunio a symud ffurf y gwrthrych. Roedd arnaf eisiau defnyddio technegau a ddangosai’r prydferthwch, ond hefyd a adroddai stori. Mae cwmpas enfawr i broses bwrneisio ac mae meistroli’r sgil hwn yn iawn yn rhoi canlyniadau anhygoel – rhai testunol, cyffyrddol, gweledol.   

Roedd yn anodd parhau i gael f’ysgogi yn sgil pandemig Covid19 ac mae’r ffurfiau clai a wnes yn syml ond yn osgeiddig.  Treuliais wythnosau’n cylchdroi o gwmpas syniadau tan i bob un ddod i’r amlwg.   Y sbigyn yw fy mhortread i o’r cyfyngiadau symud a’r pandemig.   

Next Show